Bala i Llanuwchllyn
Trosolwg
Mae’r daith hon yn dilyn ymyl Llyn Tegid, llyn naturiol mwyaf Cymru. Lleolir y llyn mewn hollt ddaearegol ac ynddo ceir y pysgod unigryw y gwyniad. Mae pysgota a hwylio yn boblogaidd yma, a cheir mynediad diogel at lan y llyn yn Llangower. Ar y daith hon gwelir Aran Fawddwy, Cadair Idris ac Arenig Fawr, rhai o fynyddoedd uchaf Eryri.
Mae Rheilffordd Llyn Tegid yn cynnig gwasanaeth rhwng Y Bala a Llanuwchllyn a gellir cludo beiciau ar y tren os trefnir hynny ym mlaen llaw