Tegi Bach Helfa Drysor
Ar gyfer plant

Trosolwg
Helfa drysor i blant gyda oedolyn. Mae’r helfa drysor yn digwydd ar y Stryd Fawr, Heol Tegid â Heol y Domen yn Y Bala. Mae’r plant yn datrys cliwiau, cael profiad o’r Gymraeg ag yn casglu sticeri o’r siopau gyda logo Tegi Bach. Mae’n bosibl cael rhai atebion trwy ofyn i bobl leol gan gynnwys perchnogion y siopau. Er mwyn cael hyd i’r trysor mae rhaid datrys yr anagram.
Mae’n bosibl cael copi o’r daflen helfa drysor fel ‘pdf’ neu mi fedrwch gael copi yn y Ganolfan Groeso neu yn y siopau gyda’r logo Tegi Bach yn y ffenestr.
Mae Tegi Bach yn fersiwn iau o’r anghenfil sydd yn byw yn Llyn Tegid. Fel arfer fe welwch yr anghenfil yn hwyr yn y nôs, yn aml iawn a’r ôl cael lluniaeth yn Y Bala!
Diolch i Charlotte Green am ddylunio logo Tegi Bach.